# Prentisiaeth Cynorthwyydd Cynhyrchu - Lefel 3 - Gwisgoedd - Cymraeg - Caerdydd at BBC

BBC is hiring a Prentisiaeth Cynorthwyydd Cynhyrchu - Lefel 3 - Gwisgoedd - Cymraeg - Caerdydd in Cardiff, United Kingdom. Level rates it Little AI ●○○○; you can [apply on BBC](https://jobsbylevel.com/go/413f703c-d5e4-4720-8aec-65c1ffcfc8b6?utm_medium=ai-agent).

AI Level 1, AI centrality 33 out of 100. Cardiff, GBR, CF10 4GA.

## Details

- Company: [BBC](https://jobsbylevel.com/companies/bbc)
- AI level: AI Level 1 (score 33 out of 100)
- Location: Cardiff, GBR, CF10 4GA
- Posted: November 3, 2026
- Apply: https://jobsbylevel.com/go/413f703c-d5e4-4720-8aec-65c1ffcfc8b6?utm_medium=ai-agent
- Free CV review for this job: https://jobsbylevel.com/cv-review?job=prentisiaeth-cynorthwyydd-cynhyrchu-lefel-3-gwisgoedd-cymraeg-caerdydd-at-bbc-13e9d3

## Description

MATH O GONTRACT: Prentisiaeth Cyfnod Penodol, Llawn-amser am 13 mis ADRAN: Gwisgoedd LLEOLIAD: Cardiff - Roath Lock CYFLOG: £24,650 AI UN O BRENTISIAETHAU’R BBC YW’R SWYDD NESAF I CHI? Ymunwch â ni fel prentis yn y BBC i roi hwb i’ch gyrfa mewn swydd y byddwch wrth eich bodd â hi. Rydym ni wedi ymrwymo i’ch helpu chi i ddatblygu eich sgiliau a’ch talent. Byddwch yn dysgu yn y gwaith ac yn cael cyfle i ddatblygu eich gwybodaeth a’ch sgiliau mewn maes y mae gennych chi ddiddordeb mawr ynddo, a hynny wrth weithio tuag at eich cymhwyster prentisiaeth gydag un o’n darparwyr dysgu. PAM YMUNO Â’R CYNLLUN? Dyma gyfle i chi lansio gyrfa yng nghanol y byd darlledu ym Mhrydain. Rydym ni'n chwilio am unigolion sy'n frwd dros ganfod sut rydym ni'n creu cynnwys ac yn dod â syniadau'n fyw. Yn dibynnu ar ardal eich lleoliad, gallech chi fod yn gweithio y tu ôl i'r llenni ar gynyrchiadau cyffrous, megis dramâu gafaelgar neu wefr radio byw, ac ennill cymhwyster cydnabyddedig wrth ddysgu yn y gwaith. Dyma gyfle i chi ehangu eich gwybodaeth am gynhyrchu wrth weithio ar gynnwys sy'n bwysig i filiynau. Eisiau gwybod mwy? Gwyliwch recordiadau o’n cyfres o weminarau ar ein rhestr chwarae YouTube Bywyd yn y BBC i ddysgu mwy am y cynllun hwn a’r cyfleoedd eraill rydym ni’n eu cynnig, ac i glywed gan ein prentisiaid presennol am eu profiadau nhw. Mae lleoedd ar y Brentisiaeth Cynorthwyydd Cynhyrchu ar gael ar draws amrywiaeth o dimau yn y lleoliad hwn, yn ogystal â lleoliadau eraill. Mae manylion lleoliadau gwaith eraill sydd ar gael yn y lleoliad hwn ar wefan Gyrfaoedd Cynnar y BBC. PAM YMUNO Â’R TÎM? Wedi eich lleoli ym Mhorth y Rhath, Cymru, byddwch yn gweithio ar y gyfres ddrama, Pobol Y Cwm. Byddwch yn gweithio yn yr Adran Gwisgoedd, ac yn ennill dealltwriaeth o bob agwedd ar sut mae’r cynhyrchiad yn gweithio gan ganolbwyntio’n benodol ar Wisgoedd. Fel Prentis Cynorthwyydd Cynhyrchu yn y BBC, byddwch chi’n cael profiad ymarferol ar draws amrywiaeth o brosiectau – o gefnogi cynyrchiadau uchel eu proffil i gyfrannu at gynnwys y mae cynulleidfaoedd ledled y DU yn ei fwynhau. Byddwch chi’n gweithio ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol profiadol, yn datblygu sgiliau ymarferol ac yn chwarae rhan weithredol yn y gwaith o ddod â syniadau creadigol yn fyw. Gallai’r brentisiaeth hon arwain at gyfleoedd i weithio fel: • Is-ymchwilydd • Rhedwr • Cynorthwyydd Cynnwys neu Olygu EICH PRIF GYFRIFOLDEBAU A’CH DYLANWAD Fel Prentis Cynorthwyydd Cynhyrchu gyda Chwaraeon Gwisgoedd , mae hwn yn gyfle gwych i ddysgu, tyfu a chyfrannu. Fe allech chi fod yn: Helpu i ddatblygu syniadau a straeon drwy ymchwilio i gynnwys a dod o hyd i westeion a chyfranogwyr. Ennill profiad bywyd go iawn drwy gynorthwyo eich tîm ar leoliad, yn y stiwdio, neu mewn oriel deledu, a helpu ar lawr y stiwdio. Dysgu sut mae defnyddio offer technegol a meddalwedd arbenigol drwy gefnogi timau gyda chamerâu, sain, goleuadau a golygu. Creu cynnwys ar gyfer sawl llwyfan, gan gynnwys cyfryngau cymdeithasol, o dan arweiniad gweithwyr proffesiynol profiadol. Byddwch yn astudio ar gyfer eich cymhwyster prentisiaeth sy’n cael ei gydnabod gan y diwydiant, gan ddysgu yn y gwaith a’r tu allan i'r gwaith. Mae hyn yn golygu y byddwch chi, yn ogystal â dysgu ar eich lleoliad yn y BBC, yn mynychu blociau dysgu (hyd at wythnos ar y tro) gyda'n darparwr dysgu, gan weithio tuag at gymhwyster prentisiaeth a gydnabyddir gan y diwydiant – Lefel 3 y Cyfryngau Creadigol. Bydd y blociau dysgu yn gyfuniad o ddarpariaeth wyneb yn wyneb a rhithwir, gan gynnwys: Cyflwyniadau Gwaith grŵp Fel rhan o’r rhaglen, bydd gofyn i chi deithio i fynd i flociau dysgu wyneb yn wyneb a gweithgareddau eraill sy’n gysylltiedig â’r brentisiaeth lle bo angen. I gael rhagor o wybodaeth am safon y brentisiaeth y byddwch yn ei hastudio, darllenwch y manylion yn Fframwaith Lefel 3 Cyfryngau Creadigol. EICH SGILIAU A’CH CYMHWYSEDD Rydym ni eisiau gwybod pam eich bod chi’n awyddus i weithio yn y BBC, ac mae gennym ddiddordeb yn eich brwdfrydedd i

The description is cut here. Read the full offer: https://jobsbylevel.com/jobs/prentisiaeth-cynorthwyydd-cynhyrchu-lefel-3-gwisgoedd-cymraeg-caerdydd-at-bbc-13e9d3

Source: https://jobsbylevel.com/jobs/prentisiaeth-cynorthwyydd-cynhyrchu-lefel-3-gwisgoedd-cymraeg-caerdydd-at-bbc-13e9d3

## Cite this page

Level. https://jobsbylevel.com/jobs/prentisiaeth-cynorthwyydd-cynhyrchu-lefel-3-gwisgoedd-cymraeg-caerdydd-at-bbc-13e9d3.

Get job alerts: https://jobsbylevel.com/newsletter
